top of page

​YNGLŶN Ȃ

Rwy’n gerfiwr coed gyda llif gadwyn hunanddysgedig o Dalsarnau yng Ngogledd Cymru.  Mae Talsarnau yn bentref bach sydd wedi ei amgylchynu gan harddwch Eryri a'i fywyd gwyllt cyfoethog o’r hyn y derbyniaf lawer o’m ysbrydoliaeth ar gyfer fy nghreadigaethau cerfio coed amrywiol.

​

Rwyf wedi bod yn creu cerfweithiau o bren gan ddefnyddio llif gadwyn ers 3 blynedd bellach ac mae'r hyn a ddechreuodd fel hobi bellach wedi troi’n angerdd gwirioneddol.

​

Mae gen i’r offer a’r yswiriant llawn ar gyfer:

​

  • Teithio i gynnal gwaith comisiwn bach mewn gerddi pobl

 

  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau a sioeau yn cynnal arddangosfeydd byw

 

  • Arddangos fy ngherfweithiau mewn ffeiriau crefft a sioeau fel stondinwr

​

​

​Boncyffion coed hyll yn eich gardd?  Trawsnewidiwch nhw yn ddarnau o gelfyddyd hwyliog a diddorol

Gallaf gludo darnau mwy o waith i’ch cartref o fewn radiws o 10 milltir (codir ffi fechan i dalu am gostau petrol)

Follow

©2016 by Dylan Aubrey Chainsaw Carvings.          Website designed by / Dyluniwyd y wefan gan: Designace Solutions

bottom of page